Mae dyn 43 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn arall ym Magillt yn Sir y Fflint.
Cafwyd hyd i gorff Andre Hamilton yn y Stryd Fawr am oddeutu 10.30 nos Fercher.
Fe fydd y dyn sydd wedi’i gyhuddo o’i lofruddio’n mynd gerbron ynadon yn Yr Wyddgrug ddydd Llun.