Mae mudiad pwyso wedi galw ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wella’r ddarpariaeth Gymraeg yng Nghastell Penrhyn, Bangor – ac i ddweud hanes y lle, a’i berthynas gyda’r gymuned leol, yn llawn.
Mewn llythyr agored at y sefydliad, mae aelodau Cylch yr Iaith yn codi pryderon am yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “llu o broblemau” ar y safle yn Llandygai ar gyrion Bangor, yn cynnwys diffyg staff sy’n medru’r Gymraeg.
Mae’r castell yn safle dadleuol yn lleol oherwydd mai yno yr oedd – ac y mae – cartref Arglwyddi’r Penrhyn. Un o’r rheiny oedd y perchennog chwarel a gaeodd y gweithwyr allan yn ystod Streic Fawr 1900-03, a’i gyndeidiau a fu’n delio mewn caethwasiaeth ac yn gwneud arian allan o fewnforio a gwerthu siwgwr o Jamaica.
Mae cwynion penodol Cylch yr Iaith yn ymwneud â diffyg Cymraeg staff y dderbynfa a’r rheiny sy’n tywys pobol o gwmpas mewn bygi rhwng y dderbynfa a’r castell; tywyswyr di-Gymraeg a’r ffaith mai uniaith Saesneg ydi’r tocynnau mynediad.
Mae cynghorwyr Plaid Cymru Dyffryn Ogwen hefyd wedi cefnogi’r alwad, gan feirniadu “diffyg ymwybyddiaeth o dreftadaeth hanesyddol” ar ran yr ymddiriedolaeth.
Maen nhw hefyd yn gweld bai ar y ffaith nad oes cyfeiriad o gwbwl at gymuned Bethesda yng nghyflwyniad y tywyswyr; dim llyfrau Cymraeg (na Saesneg) am hanes teulu’r Penrhyn na Bethesda; na chwaith gyflwyniad fideo yn yr un o’r ddwy iaith yn rhoi hanes datblygiad Chwarel y Penrhyn a’r ardal.
Anhapusrwydd
“Fel corff sy’n derbyn arian cyhoeddus i drosglwyddo hanes, diwylliant a threftadaeth ardaloedd, siawns bod dyletswydd ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wneud hynny gydag urddas a pharch at y gymuned maen nhw’n gweithredu ynddi?” meddai Dafydd Meurig, cynghorydd ward Arllechwedd.
“Yn anffodus, mae nifer o unigolion sy’n ymweld â Chastell Penrhyn yn anhapus iawn â’r sefyllfa a’r profiad maen nhw wedi ei gael yno.”