Mae’r ffaith bod petris yn cael eu saethu ger un o fannau cysegredig hynaf Cymru, yn “gabledd”, yn ôl awdur a dringwr sy’n ysgrifennu i bapur newydd The Guardian.
Yn ei erthygl ddiweddaraf, mae Jim Perrin yn adrodd stori Pennant Melangell – eglwys fechan, ger Llangynog yng ngogledd Powys – ac mae’n nodi y bu’r ardal yn lloches i anifeiliaid gwyllt ar un adeg.
Hyd at 1900, roedd pobol yr ardal yn ymatal rhag lladd ysgyfarnogod y dyffryn, meddai, ac mae chwedlau yn awgrymu bod Santes Melangell ei hun yn gwarchod y creaduriaid.
Ond, bellach mae petris yn cael eu magu a’u saethu yn yr ardal gan ystâd saethu Llechwedd y Garth, ac mae Jim Perrin yn chwyrn yn erbyn hynny.
Dim byd ond synau gynnau
“Yn fuan bydd synau gynnau yn atseinio yn y lle tawel hwn,” meddai Jim Perrin.
“Bydd cyrff llipa nythaid y flwyddyn hon yn disgyn i’r llawr, ac yn cael eu casglu gan gŵn. A’u lluchio i gefnau Land Rovers, ac yna eu taflu o’r neilltu.
“Mae’r ffaith bod hyn yn digwydd fan hyn, yn gabledd ac yn sarhad. Onid yw’r saethwyr yn sylweddoli?”
Mae golwg360 wedi cysylltu ag ystad Llechwedd y Garth i gael ymateb.