Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i garcharor ddianc o Garchar Prescoed ym Mrynbuga, Sir Fynwy.

Mae’n debyg bod Kieran Wheeler, 21 oed, wedi dianc o’r carchar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 7.

Cafodd ei ddyfarnu’n euog o ladrata yn wreiddiol, ac mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd Brynmawr, Swindon, Wiltshire a Llundain.

Roedd yr heddlu yn amau ei fod yng nghwmni carcharor arall, John Gingell, 22 oed, a wnaeth hefyd ddianc o Garchar Prescoed.

Ond mi gafodd Jordan Gingell ei ddal yr wythnos hon, ac mae bellach wedi’i gyhuddo o ddianc o ddalfa gyfreithiol.

Kieran Wheeler