Fe ymgasglodd cannoedd yn ninasoedd Cymru yn ystod y dydd ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 12) mewn protest yn erbyn ymweliad Donald Trump a’r Deyrnas Unedig.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd ar ymweliad pedwar diwrnod â’r Deyrnas Unedig – ei ymweliad swyddogol cynta’ yn rhinwedd ei swydd fel Arlywydd.
Gyda miloedd wedi ymgynnull ar strydoedd Llundain, bu cannoedd yn rhan o brotestiadau yn Abertawe a Chaerdydd hefyd.
Roedd tua 300 o bobol yn protestio yng Nghaerdydd neithiwr, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal yng nghanol y ddinas ac yn y Senedd.
Un a oedd yn bresennol yn nigwyddiad Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ym Mae Caerdydd oedd yr Aelod Cynulliad, Eluned Morgan.
Fe ddiolchodd hi’r mudiad am gynnal gwylnos yn erbyn Donald Trump y tu allan i’r Senedd, gan ychwanegu ei bod yn “falch” o fod wedi gallu ymuno â nhw mewn ail brotest yng nghanol y brifddinas.
Bydd Donald Trump yn cynnal trafodaethau â Phrif Weinidog Prydain, Theresa May, heddiw, cyn cyfarfod â’r Frenhines yng Nghastell Windsor.
Mae disgwyl rhagor o brotestiadau yn ystod y dydd, yn enwedig yng nghanol Llundain.
Mae disgwyl i falŵn ar ddelw Donald Trump gael ei ryddhau dros San Steffan.