Mae’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi datgan pryder difrifol ynglŷn â goblygiadau cwtogi cyfraniad cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru tuag at brosiectau sy’n allweddol o safbwynt ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.

Daw hyn yn sgil penderfyniad y Llywodraeth i newid meini prawf y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain gan leihau eu cyfraniad ariannol nhw o 70% i 50% tuag at brosiectau o 2014 ymlaen.

Cynllun sydd wedi’i effeithio’n uniongyrchol gan hyn yw cynnig Cyngor Bwrdeisdref Caerffili i sefydlu darpariaeth ar gyfer plant 11-14 oed (Bl.7,8 a 9) ar safle St Ilan ynghanol tref Caerffili. Y gobaith gwreiddiol oedd y byddai’r ysgol yn agor ym Medi 2012 ond oherwydd gostyngiad o ran cyfraniad ariannol y Llywodraeth bydd rhaid ei roi i’r neilltu am flwyddyn o leiaf.

‘Twf anhygoel yn y galw am addysg Gymraeg’

Mae twf anhygoel yn y galw am addysg Gymraeg ar hyd a lled bwrdeisdref Caerffili yn tanlinellu pwysigrwydd angenrheidiol rhoi’r cynllun ar waith ar unwaith. Mae CBS Caerffili bellach yn gorfod darparu ar gyfer derbyn oddeutu 400 o ddisgyblion yn ysgolion cyfrwng Cymraeg y sir yn flynyddol a’r rhagolygon yn awgrymu’n gryf y bydd hyn yn parhau i’r dyfodol.

Canlyniad hyn yw y bydd dros 3,300 o blant yn ysgolion cynradd Cymraeg Caerffili ymhen wyth mlynedd – oddeutu mil yn fwy na’r niferoedd presennol. Pe byddai’r patrwm hwn yn parhau dros y cyfnod uwchradd o saith mlynedd byddai yno bron i 2,900 o blant – ddwywaith y nifer sydd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn awr. Yn naturiol dim ond cynyddu’r gwasgedd ar gynhwysedd presennol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Fleur de Lys, yr unig ysgol uwchradd Cymraeg sy’n gwasanaethu’r awdurdod, a wna’r twf presennol. Erbyn Medi 2012 bydd 21 disgybl yn ormod yn yr ysgol, hynny’n cynyddu i 83 ym Medi 2013 a’r ffigwr yn codi i 700 erbyn 2016.

Dywedodd Ben Jones, Cadeirydd Cangen RhAG Caerffili, “Mae’r sefyllfa yma yng Nghaerffili yn un ddifrifol iawn, ar un llaw mae twf sylweddol o ran y galw a’r cyngor yn ceisio ymateb yn rhagweithiol er mwyn diwallu’r galw hwnnw, yn unol ag amcanion Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, ond ar y llaw arall nid yw penderfyniadau’r Llywodraeth yn ymddangos fel petaent yn hwyluso na chefnogi ymdrechion awdurdodau megis CBS Caerffili i gynyddu llefydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n gwbl amlwg fod y sefyllfa bresennol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni’n anghynaladwy ac y bydd yn cyrraedd pwynt argyfwng erbyn Medi 2013. ”

‘Ansicrwydd mawr’

Ychwanegodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu Cenedlaethol RhAG, “Mae’r sefyllfa’n codi cwestiynau dwys ar lefel ehangach o safbwynt y Llywodraeth sydd wedi annog awdurdodau lleol i fuddsoddi adnoddau, amser swyddogion ac arian cyhoeddus sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf er mwyn llunio’r ceisiadau hyn.

“Mewn cyfnod economaidd heriol ble mae atebolrwydd o safbwynt gwariant arian cyhoeddus yn gynyddol bwysig – rhaid gofyn beth oedd diben arwain awdurdodau i afradu arian ac amser ar gynlluniau nad oeddent yn mynd i dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol i weld golau dydd? Gan y bydd gofyniad ar bob awdurdod yng Nghyrmu i adolygu ac ail flaenoriaethu eu prosiectau mae hynny’n peri ansicrwydd mawr o ran cynlluniau trefniadaeth ysgolion ledled y wlad a’r goblygiadau’n anorfod yn ymestyn i’r sector cyfrwng Saesneg yn ogystal.”

“Pwyswn ar y Llywodraeth i roi mwy o eglurhad ynglyn â’r cymorth ariannol y gall awdurdodau ei ddisgwyl ac i roi arweiniad clir ynglŷn â’r ffordd ymlaen yn y tymor byr a thu hwnt – yn enwedig felly mewn siroedd megis Caerffili ble mae’r sefyllfa’n argyfyngus. Mae hyn yn gwbl allweddol er mwyn rhoi sicrwydd i’r awdurdodau lleol flaengynllunio er mwyn diwallu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â thawelu meddyliau rhieni sydd ar hyn o bryd yn pryderu am ddyfodol addysgol eu plant.

“Tra’n deall yr angen cyffredinol am gwtogi yn y cyfnod hwn o gyni ariannol, mae angen caniatau datblygiad mewn sefyllfa o argyfwng addysgol.”