Mi fydd myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd feddygaeth yn gallu gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor o 2019 ymlaen, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Trwy gydweithrediad rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â’u gradd feddygol israddedig yn llawn yng ngogledd Cymru.
Mae hyn yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu addysg feddygol ledled Cymru, gyda mwy o astudiaethau’r myfyrwyr yn digwydd mewn lleoliadau yn y gymuned.
Mi fydd hyn, meddai Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn agosach at gartrefi’r cleifion.
Gofal yn y gymuned
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mae’r cyhoeddiad hwn yn ceisio “mynd i’r afael â’r heriau” o ran cynnal gweithlu meddygol yng Nghymru.
“Bydd y datblygiad hwn yn helpu’r myfyrwyr i wneud cysylltiadau a chynllunio ar gyfer eu hyfforddiant ôl-raddedig yn yr un ardal,” meddai wedyn.
“O ran y cynlluniau newydd, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau hirach yng ngogledd Cymru a mwy o bwyslais ar weithio yn y gymuned.”
“Newyddion da”
Mae’r Aelod Cynulliad dros etholaeth Arfon, Siân Gwenllian, wedi croesawu’r cyhoeddiad fel “newyddion da”.
“Gan fod yna dipyn o dystiolaeth sy’n dangos bod myfyrwyr meddygol yn aros i fod yn ddoctoriaid yn yr ardal lle maen nhw’n cael eu hyfforddi, mae’r datblygiad hwn yn newyddion gwych i’r cleifion sydd ar hyn o bryd yn wynebu amseroedd aros hir ar gyfer apwyntiadau oherwydd prinder doctoriaid,” meddai.
“Mae Plaid Cymru o hyd wedi mynnu bod angen mwy o ddoctoriaid a staff proffesiynol er mwyn gwella ein Gwasanaeth Iechyd.
“Rydym ni wedi bod yn pwyso’n drwm am hyfforddiant meddygol israddedig llawn ym Mangor, ac yn falch bod y Llywodraeth wedi gwrando o’r diwedd.”