Pan ddaeth Gorsedd y Beirdd ar ymweliad â thref gastellog Conwy ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7) roedd yno faneri annisgwyl yn cyhwfan.
Ar hyd y prif strydoedd siopa, ers dechrau Mehefin, mae fflagiau Cymru a Japan wedi’u gosod am yn ail – a does gan hynny ddim byd o gwbwl i’w wneud â’r Eisteddfod Genedlaethol fydd yn dod i’r ardal ym mis Awst y flwyddyn nesaf.
Mae’r baneri yn eu lle fel rhan o groeso’r dref i gynrychiolwyr Cymdeithas Asiantaethau Gwyliau Japan, sydd wedi bod ar ymweliad â gogledd Cymru cyn y byddan nhw’n dychwelyd i’r Dwyrain Pell ac yn marchnata Conwy fel ‘llecyn harddaf Ewrop’.
Ac fe fydd baneri Japan yn dal i chwifio ar y strydoedd yng Nghonwy ac ar un o dyrau’r castell, hyd nes bydd Maer tref Himeji wedi bod ar ymweliad yn ddiweddarach y mis hwn.
Y gobaith, eto, yw y bydd Castell Conwy yn elwa yn dwristaidd o gael ei efeillio â Chastell Himeji yn Japan.
Coch, gwyn a glas?
Er hyn, dydi hi ddim yn glir pam y dewisodd Canolfan Ymwelwyr Conwy osod clamp o Jac yr Undeb ar dalcen yr adeilad (prif lun) ar ddiwrnod cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 ar gaeau Bodlondeb ar gyrion y dref.
Roedd yr Orsedd, ynghyd â disgyblion ysgolion a mudiadau lleol, band pres a chynghorwyr sir a swyddogion y pwyllgorau trefnu, yn pasio nepell i ffwrdd, a’u prosesiwn yn dod â thraffig y dref i stop am gyfnod o flaen y ganolfan.
Y ddwy faner arall ar yr adeilad oedd un Japan, am yr un rhesymau â’r uchod, a chroes felen Dewi Sant ar gefndir du.
Dim sôn am gêm fawr Lloegr?
O leia’ doedd yna’r un faner San Siôr yn nhref Conwy ar y dydd Sadwrn yr oedd Lloegr hefyd yn herio Sweden yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn Rwsia… oedd yna?
Na, nid un. Roedd yno dair, ar flaen siop swfenirs reit yng nghanol y dref.