Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7) mai Tregaron fydd cartref prifwyl Ceredigion 2020, mae hi wedi dod i’r amlwg fod Caernarfon wedi gwahodd swyddogion i drafod y posibilrwydd o’i chroesawu y flwyddyn ganlynol.

Mae golwg360 yn deall fod rhai o bwysigion y brifwyl wedi cael eu gwahodd i Wyl Fwyd Caernarfon ym mis Mai eleni, gyda’r bwriad iddyn nhw gael gweld tre’r Cofis ar ei gorau a gweld beth sy’n bosib oddi fewn iddi yn 2021.

Cyngor Tref Caernarfon oedd wedi estyn y gwahoddiad i aelodau’r Bwrdd Rheoli a’r Cyngor, er mwyn iddyn nhw gael gweld y miloedd o bobol sy’n tyrru i’r wyl fwyd, a pha fath o effaith y mae hynny’n ei gael ar fusnesau’r dref.

Y gobaith fyddai i’r Eisteddfod a’i holl weithgareddau ddigwydd mewn nifer o safleoedd yng Nghaernarfon, heb orfod mynd am gaeau eang oddi allan i’r dref, fel y digwyddodd gyda phrifwyl Eryri yn 2005. Ar gaeau stad Y Faenol y cynhaliwyd honno, rhwng Y Felinheli a Bangor.