Nid y rheiny sy’n olrhain hanes yr heddychwr Henry Richard, ac am weld ei gerflun ar y sgwâr, sy’n dod am dro i Dregaron. Ac nid un heol yn unig sy’n arwain yno, meddai’r cynghorydd cymuned, David Bennet.
Mae am weld y dref sy’n gartref i’r Talbot Hotel ac i bencadlys gemwaith arian Rhiannon, hefyd yn dod yn gartref dros-dro i’r brifwyl yn 2020.
Mae Tregaron yn dref farchnad gyda’r hynaf yng Nghymru, ac mae’n llawn cymeriadau. Oddi yno mae’r ffyrdd bychain yn arwain at Soar y Mynydd ac Abergwesyn ar y naill law, ac at Bontrhydfendigaid a Ffair Rhos ar y llall.
Mae un o’i meibion enwocaf – y digrifwr Ifan Tregaron – yn cael ei dderbyn i’r Orsedd yng Nghaerdydd fis nesaf.