Mae diffoddwyr tân yn dal i frwydro tanau gwylltion mewn dwy ardal yng ngogledd Cymru, ac yn apelio ar i’r cyhoedd gymryd gofal.

Yn ardal Braichmelyn, Bethesda, mae sawl cerbyd arbenigol yn delio â fflamau mewn coedwig, ac mae tua 30 o gartrefi yn ardal wedi’i gwacáu.

Ym mhentref Carmel, Dyffryn Nantlle, mae diffoddwyr tân yn dal i frwydro fflamau ar Fynydd y Cilgwyn.

Cafodd y gwasanaeth dân eu galw i’r mynydd am 6yh ddydd Llun (Gorffennaf 2), ac ar un adeg roedd 40 diffoddwr tân yno. Er i’r tân gael ei ddiffodd, mae bellach wedi ail-gydio.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn dal i gadw llygad ar Fynydd Bangor, wedi iddyn nhw ddelio â thân yno brynhawn ddoe.

Apêl

“Mae’n anodd dweud â sicrwydd beth yn union wnaeth achosi’r tanau yma,” meddai Kevin Roberts, Uwch Rheolwr Diogelwch Tân y gwasanaeth.

“Ond, rydym yn erfyn ar bawb i gymryd gofal pan maen nhw allan yng nghefn gwlad er mwyn helpu lleihau’r risg o dân – yn enwedig yn ystod y tywydd poeth a sych yma.”

Mae’r gwasanaeth yn galw ar i’r cyhoedd fod yn ofalus wrth ddiffodd tanau, barbeciws a sigaréts.