Mae Rhun ap Iorwerth wedi awgrymu ei fod yn dal i “ystyried” a fydd yn herio Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru neu beidio.
Mewn erthygl yn y Western Mail ac ar wefan Nation.Cymru heddiw, mae’r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn yn ymddiheuro i’r rheiny sydd wedi darllen ei erthygl gan gredu ei fod yn lansio ymgyrch am yr arweinyddiaeth.
Yn hytrach, mae’n ychwanegu ei fod yn agored i drafodaeth a bod angen gweledigaeth gliriach ar Blaid Cymru.
“Dw i am ddatgan fy mod i’n parhau i ystyried fy ymateb i wahoddiad Leanne [Wood] ar gyfer dadlau ar fater yr arweinyddiaeth,” meddai ar Rhun ap Iorwerth ar Nation.Cymru.
“Beth mae hyn yn ei olygu, mewn gwirionedd, yw fy mod i’n siarad â chynifer o bobol ag sy’n bosib ynglŷn â’r ffordd orau o fynd â Phlaid Cymru ymlaen.”
Adam Price yn galw am ddau arweinydd
Mi ymddangosodd erthygl Rhun ap Iorwerth ochr yn ochr ag un gan Adam Price, a nododd yn ei erthygl y byddai’n herio Leanne Wood, oni bai ei bod yn rhannu’r swydd o arweinydd.
Dywedodd fod angen dau arweinydd – un dyn ac un ddynes – ar Blaid Cymru os ydyn nhw am ennill etholiad 2021.
Byddai hyn, meddai, “yn ein galluogi i fynd i’r afael â sawl bydolwg, ac i anelu tuag at gynnydd gwleidyddol eang.”
Galw am gystadleuaeth
Mae tri Aelod Cynulliad Plaid Cymru – Llyr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones, wedi galw am gystadleuaeth ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Mae’r cyn-Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd, hefyd wedi galw am newid i gyfeiriad y blaid.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr yw dydd Mercher (Gorffennaf 4).