Mae ffermwr llaeth o Wynedd yn dweud bod y tywydd poeth wedi creu problemau mawr ar ei fferm, fel ar gynifer o ffermydd eraill.
Yn ôl Aled Jones, is-lywydd NFU Cymru, sy’n godro tua 450 o wartheg ar fferm Yr Hendy ger Caernarfon, nid yw e wedi gweld y fath dywydd poeth yng Nghymru “ers blynyddoedd”.
Mae’n nodi mai dyma’r tro cynta’ iddo weld ffynhonnau’r fferm yn “arafu”, a bod prinder o ran porfa wedyn yn golygu ei fod yn gorfod chwilio am borthiant ychwanegol i’w wartheg.
“Y broblem rŵan ydy bod pawb yn brin,” meddai wrth golwg360.
“Mi wnaiff y tywydd dorri rhyw ben, ond yn y cyfamser mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael bwyd a diod o ryw fath, gan obeithio y gallwn ni ddal i fyny yn hwyrach ymlaen yn y tymor – os daw hynny.
“Beth sy’n anffodus eleni ydy oherwydd bod y gwanwyn wedi bod mor hwyr yn dod, ein bod ni wedi defnyddio llawer iawn o’n bwyd ychwanegol y gaea’ diwetha’…
“Mi aeth pob un blewyn a oedd gynnon ni wrth gefn i gael ei defnyddio i fwydo y gwanwyn diwetha’, oherwydd mi aeth y gaea’ ymlaen tan ddiwedd Ebrill bron.”
Difa stoc?
Er bod Aled Jones yn dweud bod ffermydd “ar drugaredd y tywydd”, ac nad os oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosto, un opsiwn posib y bydd rhaid i ffermwyr ei ystyried os fydd y tywydd yn parhau, meddai, yw difa stoc.
Ond mae’n ychwanegu ei fod yn “gobeithio” na ddaw hi at hynny, ac mai penderfyniad pob ffermwr yn “unigol” fydd hynny yn y pen draw.
“Dw i’n gwybod mewn gwledydd eraill lle maen nhw’n cael tywydd eithriadol yn eitha’ rheolaidd, fel Awstralia, maen nhw’n gorfod cymryd y penderfyniad anodd o ddifa stoc.
“Dw i’n gobeithio byth y daw hi i hynny, ond mae’n bosib iawn pa hyd y parith y tywydd, hwyrach y daw hi i hynny hyd yn oed, sef ein bod ni’n edrych ar faint o anifeiliaid rydan ni yn ei gadw ac yn lleihau’r stoc.”
“Cynllunio”
Y cyngor sy’n cael ei gynnig gan y corff amaethyddol, Cyswllt Ffermio, yw y dylai ffermwyr “roi cynllun ar waith” mewn cyfnodau o sychder.
“Os ydych chi’n bwydo stoc y gaeaf, cyfrwch y byrnau neu mesurwch y clamp yn rheolaidd i fonitro’r defnydd,” meddai Abigail James, Swyddog Technegol gyda Cyswllt Ffermio.
O ran cyflenwad dŵr wedyn, y cyngor yw sicrhau bod gan anifeiliaid fynediad at ddŵr, a bod y ddarpariaeth yn cael ei fodloni ar draws y fferm.
“Ystyriwch osod mwy o gafnau os nad yw’r galw’n cael ei fodloni,” meddai. “Chwiliwch am ddarnau o laswellt sy’n parhau i dyfu’n dda, gan y gallai hynny awgrymu bod dŵr yn gollwng.”
Mae hefyd yn argymell ffermwyr i gael gwared ar unrhyw stoc sydd dros ben, ac na ddylai’r rheiny sy’n defnyddio system gylchdro or-bori.