Mae un a fu’n aelod o lywodraeth Tony Blair wedi datgelu rhai o’r triciau a gafodd eu defnyddio er mwyn sicrhau mai Alun Michael ac nid Rhodri Morgan fyddai Prif Weinidog cyntaf Cymru.
Dywed Jon Owen Jones, is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig pan ymddiswyddodd Ron Davies fel Ysgrifennydd Cymru a darpar brif weinidog yn 1998, ei fod wedi aros yn dawel am 20 mlynedd ond ei fod yn teimlo’i bod yn bryd bellach esbonio’r hyn a ddigwyddodd.
“Cafodd Alun Michael ei benodi’n Ysgrifennydd Cymru, ac roedd am sefyll fel arweinydd y Cynulliad gyda chefnogaeth glir Tony Blair,” meddai John Owen Jones mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.
“Roedd disgwyl i beirianwaith y blaid wireddu dymuniadau’r Prif Weinidog.”
Fel un a dreuliodd y pedair blynedd flaenorol yn swyddfa’r Chwipiaid yn San Steffan, daeth yn amlwg yn fuan i Jon Owen Jones y byddai Rhodri Morgan yn ennill y bleidlais ymysg Aelodau Seneddol yn ogystal ag aelodau cyffredin y blaid.
“Dywedais wrth dîm arweinyddol Cymru na allai Alun ennill a’i bod yn bryd codi pontydd gyda Rhodri,” meddai.
“Fe fu tawelwch, ac ymhen ychydig ddyddiau cafwyd cynllun cyfrwys.”
Dewis ymgeiswyr
Yn ôl Jon Owen Jones, y cynllun hwnnw oedd rhoi pleidlais yn y coleg etholiadol – a oedd yn cyfrif am draean yr holl bleidleisiau – i holl ymgeiswyr Llafur y Cynulliad, waeth pa mor anobeithiol oedd eu siawns o gael eu hethol.
“Mewn gwirionedd, doedd y mwyafrif o ymgeiswyr ar gyfer y seddau anobeithiol a’r rhestrau rhanbarthol ddim wedi eu dewis eto,” meddai. “Byddai’r bobl a fyddai’n cael cael eu dewis ar gyfer y seddau hyn yn penderfynu’r canlyniad – os oedd eich pleidlais wedi ei haddo i Alun, byddai peirianwaith y Blaid yn gweithredu ar ei ran.”
Mae hefyd yn cyhuddo’r corff o dan adain yr undebau llafur a oedd yn rhedeg yr etholiad o gydweithio’n agos â thîm Alun Michael.
“Ro’n i wedi penderfynu, yn breifat, y byddwn yn atal fy mhleidlais,” meddai. “Ond ychydig ddyddiau cyn i’r bleidlais gau cefais alwad gan weinidog arall yn gofyn pam nad o’n i wedi pleidleisio.
“Pan holais sut y gwyddai am fy mhleidlais, dywedodd na ddylwn fod yn gofyn y cwestiwn. Oriau’n ddiweddarach, cefais alwad gan rif 10 Downing Street yn dweud eu bod yn disgwyl teyrngarwch gan eu gweinidogion.”
Tymor byr
Roedd y mwyafrif o’r ymgeiswyr a gafodd eu hethol yn Aelodau Cynulliad wedi cefnogi Rhodri Morgan yn yr etholiad.
“Yn y pen draw fe wnaeth y cynllun cyfrwys weithio, ond dim ond yn y tymor byr,” meddai Jon Owen Jones.
“O fewn y flwyddyn fe wnaeth diffyg cefnogaeth Alun yn ei grwp arwain at ei ddymchwel yn yr hyn y gellir ei ddisgrifio fel coup i bob pwrpas.”