Mae Heddlu’r De yn gofidio am ddynes feichiog 31 oed o Abertawe.
Does neb wedi gweld Linda Paul, sy’n byw yn ardal Mayhill y ddinas, ers dydd Iau.
Mae hi’n cael ei disgrifio fel dynes 5’1″ a chanddi wallt brown wedi’i glymu’n ôl a gemwaith trwy ei gwefus.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth amdani gysylltu â’r heddlu ar 101.