Terry Jones, un o noddwyr Theatr Colwyn. Llun o Wicipedia
Fe fydd Theatr Colwyn ym Mae Colwyn yn ailagor heno ar ei newydd wedd yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £738,000.
Fe fydd y theatr yn ail-agor gyda pherfformiad sioe gerdd o Godspell. Mae Godspell yn delio gyda diwrnodau diwethaf Iesu Grist ac yn cynnwys fersiynau gwahanol o straeon beibl.
Fe roddwyd £500,000 gan Raglen Ardal Adfywio Gogledd Cymru at y gwaith, a £238,000 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy’n berchen ar y lleoliad ac yn ei reoli.
Bydd y comedïwr enwog a’r cyn Monty Python Terry Jones, un o noddwyr Theatr Colwyn a aned ym Mae Colwyn, yn torri’r rhuban swyddogol i agor y theatr ddydd Sadwrn, 15 Hydref.
Fe gafodd y lleoliad ei adeiladu yn 1885. Dyma’r sinema weithredol hynaf yn y DU a’r theatr ddinesig a theatr weithredol hynaf yng Nghymru.
Mae mynedfa newydd sbon, gwaith brics Fictoraidd yn y golwg yn ogystal â mynediad i’r anabl i’r adeilad, bar ar y llawr gwaelod, swyddfeydd newydd, swyddfa docynnau mewn lleoliad newydd, ystafell gymunedol a choridor yn cysylltu blaen y tŷ a chefn llwyfan.