Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad ar ôl i tua £57,000 gael ei ddwyn o beiriant arian yn Sir Benfro.

Yn ôl yr heddlu, fe fu’r digwyddiad ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Mehefin 11), pan wnaeth person anhysbys dorri i mewn i Goleg Penfro yn Hwlffordd, gan ddifrodi’r peiriant arian a dwyn yr hyn a oedd ynddo.

Mi gafodd dyn 62 oed ei arestio ar amheuaeth o ladrata, ond mae erbyn hyn wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif 101.