Edwina Hart - dan bwysau i weithredu
Mae’r Ceidwadwyr wedi ymosod ar Lywodraeth Cymru tros y ffigurau diweithdra’ diweddara’ – er bod niferoedd yn codi ar draws gweddill gwledydd Prydain hefyd.
Gyda 7,000 yn rhagor yn ddi-waith ar ddiwedd y chwarter diwetha’ – hyd ar fis Gorffennaf – mae’r raddfa ddiweithdra yng Nghymru bellach yn 8.4% ac yn uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.
Dyma’r ail gynnydd yn olynol yn y ffigurau ac mae’r Ceidwadwyr yn ceisio rhoi pwysau ar y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, gan ei chyhuddo hi o lusgo’i thraed tros sefydlu ardaloedd menter.
Dyna oedd neges Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, a’r llefarydd Cymreig ar fusnes, Nick Ramsay – fe ddywedodd ef fod angen i’r Gweinidog wneud penderfyniadau.
Roedd y datganiad am ardaloedd menter wedi ei wneud yn Lloegr bedwar mis yn ôl, meddai, ac roedd rhai o’r rheiny am y ffin â Chymru.
Yn ôl Edwina Hart, mae’r ffigurau’n dangos bod economi Cymru’n parhau’n fregus ac mae’r Llywodraeth yn adolygu’r holl ddulliau o gefnogi busnes er mwyn diogelu busnesau presennol a, lle bo cyfle, i greu swyddi newydd.