Mae unigolyn 18 oed yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.
Ar ôl y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ddydd Sadwrn, roedd un car wedi glanio ar ben y llall, ac fe gafodd un gyrrwr ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol i’r pen a’r cefn.
Doedd neb yn y trydydd cerbyd wedi cael ei anafu.
Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth tân eu galw.