Fe fydd Heddlu Dyfed-Powys yn sefydlu uned troseddau gwledig am y tro cynta’.
Mae uned debyg wedi bodoli yng ngogledd Cymru ers pum mlynedd, ond dyma’r tro cynta’ i un gael ei ffurfio yn y gorllewin.
Fe fydd yr uned newydd yn ymdrin â materion fel poeni defaid a lladrata da byw, ac yn cynnig cymorth a chyngor i bobol o fewn y gymuned wledig.
Fe fydd hefyd yn cydweithio’n agos â sefydliadau fel Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae dau swyddog wedi’u penodi eisoes, sef y Cwnstabl Esther Davies a’r PCSO Caryl Griffiths, a hynny yn dilyn cyfnod o hyfforddiant gan uned troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd y ddwy yn gyfrifol am ranbarth Ceredigion, sy’n ymestyn o Grymych yn Sir Benfro i Fachynlleth.
“Ymrwymo i’r achos”
“Mae mynd i’r afael â throseddau gwledig yn flaenoriaeth ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a’r unig ffordd i fynd i’r afael â’r materion hyn yn llawn yw cael swyddogion a staff sydd wedi ymrwymo i’r achos,” meddai Robyn Mason, arweinydd Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer troseddau gwledig.
“Hwn fydd y cyntaf o bedwar tîm troseddau gwledig a fydd yn cael eu lansio ar draws ein rhanbarthau, ac mae’n gyfle cyffrous iawn ar gyfer yr heddlu.”