Mae modd “dysgu llawer iawn” o straeon pobol mewn llenyddiaeth, yn ôl arbenigwraig ar chwedlau a llên gwerin.
Dywed Rhiannon Ifans hyn wrth nodi mai Branwen ferch Llŷr o ail gainc y Mabinogi yw ei hoff dywysoges yn hanes Cymru.
Ond er nad cymeriad o gig a gwaed yw Branwen, meddai, mae’n ychwanegu bod yn well ganddi fynd “am stori dda, yn hytrach nag am hanes”.
“Dw i’n hoffi’r stori yn hytrach na’r hanes, achos mewn gwirionedd cymeriad chwedlonol oedd hi, felly wnaeth hi ddim byd yn hanesyddol,” meddai Rhiannon Ifans wrth golwg360.
“Stori ydy hi, ond rydan ni’n gallu dysgu llawer iawn o straeon pobol mewn llenyddiaeth, ac efallai defnyddio ychydig bach ohonyn nhw yn ein hamgylchiada ni heddiw.”
“annibynnol ei barn”
Er mai gweithredu’n “dawal” y mae Branwen trwy gydol y chwedl, dywed Rhiannon Ifans ymhellach ei bod yn edmygu’r dywysoges oherwydd mai “dynes annibynnol ei barn” yw hi.
“Mae[‘r chwedl] yn dysgu i ni fod Branwen ei hun yn ddynes annibynnol ei barn,” meddai. “Mae’n ddynes ddeallus tu hwnt. Mae’n llawer mwy deallus na’i gŵr [Matholwch].
“Mae hi’n ufudd ac yn hardd ac yn gallu gwneud popeth. Mae’n gallu trin pobol, mae’n gallu bod yn lladmerydd, ac mae’n gallu gwneud yr holl bethau yma, ond wrth gwrs mae’n eu gwneud nhw’n dawal, yndê.
“Mae ganddi hi ei chynllun ei hun ar gyfer ei hun, ac mae’n medru rhyddhau ei hun o’i chaethiwed…”
Chwedl Branwen ferch Llŷr
Dyma glip sain o Rhiannon Ifans yn adrodd hanes Branwen ac yn sôn ymhellach am nodweddion ei chymeriad…