Mae’r “rhagolygon yn dda” i wiwerod coch yng Nghymru, yn ôl cadwriaethwr o fudiad yn Ynys Môn.
Daw’r sylw yn sgil cyhoeddiad astudiaeth sy’n honni bod o leiaf un o bob pump o famaliaid brodorol gwledydd Prydain mewn perygl o ddiflannu.
Mae gwiwerod coch Cymru ymhlith y creaduriaid yma, yn ôl adroddiad Cymdeithas y Mamaliaid, ond mae Craig Shuttleworth, o Ymddiriedolaeth y Wiwer Goch, yn gwrthod hynny.
Mae’n cyhuddo’r gymdeithas o “gamarwain trwy hepgor manylion” ac yn mynnu bod niferoedd ar gynnydd yng Nghymru.
Y rhagolygon
“Dw i’n credu bod y rhagolygon yng Nghymru yn dda i wiwerod coch, oherwydd y gwaith da gan wirfoddolwyr a pherchnogion tir yn gweithio ar y cyd,” meddai wrth golwg360.
“Y bygythiad mwyaf i wiwerod coch yng Nghymru yw’r posibilrwydd o bawb yn rhoi’r gorau i’r gwaith gwirfoddoli. Dw i ddim yn credu fod pobol Ynys Môn am weld eu gwiwerod yn marw allan.
“Rydan ni’n gweithio’n galed iawn, a’n neges ni yw bod hyn yn anodd – mae’n her. Ond, rydan ni’n gwneud cynnydd, felly mae’n rhaid i ni fod yn optimistaidd.”
Ar flaen y gad
Mae’n dweud bod Cymru yn “enghraifft wych” i weddill y Deyrnas Unedig, o’r hyn sy’n bosib ei gyflawni.
Er bod yr astudiaeth yn dweud bod “cwymp amlwg” wedi bod yn niferoedd wiwerod coch yng Nghymru a Lloegr ers y 1990au, mae Craig Shuttleworth yn cynnig darlun tra gwahanol.
Erbyn heddiw, mae yna tua 2,000 o wiwerod coch yng Nghymru gyfan, meddai, o gymharu â dim ond 100 ugain mlynedd yn ôl.
Yn Ynys Môn mae yna rhwng 700 a 800; yng Ngwynedd mae yna ryw 50-60; ac mae yna “gannoedd” yng nghanolbarth Cymru, yn ôl y cadwriaethwr.