Heddiw, fe ddaeth cyhoeddiad Betsan Powys ei bod am roi’r gorau i olygu Radio Cymru yn yr hydref. Ond mae’n bosib fod blogiwr am fyd y cyfryngau wedi awgrymu ers rhai wythnosau nad oedd pethau’n rhy dda yn Llandaf.
Yn ei sylwadau ben bore ar ‘Trading as WDR’ ar Fai 30, roedd y blogiwr Bill Rogers yn disgrifio Golygydd Radio Cymru fel bos “dan warchae”, yn ceisio chwilio am ffyrdd newydd o ddal gwrandawyr, a hithau ar y pryd yn edrych ymlaen at wythnos o ddarlledu o Eisteddfod yr Urdd.
Bryd hynny, fe fyddai Betsan Powys newydd gael ffigurau gwrando diweddaraf y corff RAJAR, a oedd yn dangos fod tua 121,000 o bobol yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos.
“A ydw i’n synhwyro ychydig o heresi Cymreig gan olygydd dan warchae BBC Radio Cymru, Betsan Powys?” meddai blogiad Bill Rogers am 9.40yb, dydd Mercher, Mai 30, 2018.
“Rhyw arlliw, dim ond arlliw, o ymdeimlad fod wythnos gyfan o ddarlledu o’r brifwyl ieuenctid ddim yn ffordd o ddenu pobol i wrando?”
Dyna pam, ydi awgrym Bill Rogers, y penderfynodd Betsan Powys roi arlwy Radio Cymru 2 ymlaen yn y prynhawniau yn ystod wythnos yr Urdd ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, gan gynnig “dewis arall” ar wahân i’r brif sianel a oedd yn darlledu’r cystadlu yn ddi-dor.
Ail donfedd Radio Cymru 2 ydi prif brosiect Betsan Powys yn ystod ei phum mlynedd wrth y llyw yn Radio Cymru. Fe lwyddodd i berswadio Rheolwr Cymru, Rhodri Talfan Davies, i gael cynnal cynllun peilot, a gwneud cais am arian ychwanegol er mwyn lansio’r gwasanaeth newydd ddiwedd Ionawr eleni.
Mae Bill Rogers yn blogio ar faterion yn ymwneud â byd darlledu, ac ar faterion mewnol y BBC yn benodol.