Mae lefel diweithdra Cymru yn parhau’n uwch na’r lefel dros wledydd Prydain, yn ôl yr ystadegau diweddara’.
Rhwng mis Chwefror ac Ebrill roedd 4.4% o bobol Cymru yn ddi-waith, tra’r oedd 4.2% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn ddi-waith, ar gyfartaledd.
Dros yr un cyfnod, roedd 75.6% o bobol gwledydd Prydain mewn gwaith, ond dim ond 73.3% o bobol Cymru â swydd.
Fe gynyddodd y nifer o bobol oedd yn gweithio yng Nghymru yn ystod y misoedd yma o gymharu â’r tri mis rhwng Tachwedd ac Ionawr o 0.8%. Fe ostyngodd y gyfradd ddiweithdra gan 0.5%.