Fe fydd corff dyn dinew, a gafodd ei gladdu mewn mynwent ym Môn chwarter canrif yn ôl, yn cael ei godi o’r bedd er mwyn ei adnabod yn ffurfiol.
Mi gafodd y corff dan sylw ei ddarganfod gan aelod o RAF y Fali ar draeth Rhosneigr ar Dachwedd 9, 1985, ac er gwaetha’ ymchwiliadau’r heddlu ar y pryd, mi fethwyd ag adnabod y corff yn ffurfiol.
Ar ôl i’r crwner wedyn ddyfarnu nad oedd ei farwolaeth yn un amheus, fe gafodd y dyn dinew ei gladdu ym Mynwent Porthaethwy.
Adnabod y corff
Erbyn hyn, mae gwybodaeth a thechnoleg newydd wedi galluogi’r heddlu i ailagor yr ymchwiliad a chynnal datguddiad ar ran y crwner.
Maen nhw bellach yn credu mai Joseph Brendon Dowley, Gwyddel a oedd yn byw yn Llundain, yw’r corff.
Yn ôl yr heddlu, mi fu’r dyn 63 oed yn ymweld â theulu yn Iwerddon yn 1985, ac fe gafodd ei weld am y tro olaf wrth gael ei gludo mewn car at borthladd y fferi gan aelod o’i deulu.
Dychwelyd i’r teulu
“Pwrpas y datgladdiad yw cael proffil DNA i gymharu â DNA aelodau o deulu Mr Dowley yn Iwerddon sy’n ymwybodol o’r datblygiadau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
“Os cadarnheir gan Grwner Ei Mawrhydi mai Mr Dowley ydyw, yna’r gobaith yw aduno Mr Dowley â’i deulu cyn gynted â phosib er mwyn iddyn gael cynnal angladd llawn.”
Mae’r ymchwiliad yn rhan o Ymgyrch Orchid, lle mae Heddlu Gogledd Cymru’n defnyddio technoleg DNA newydd i adnabod gweddillion dynol sydd wedi’u darganfod yn yr ardal yn ystod y 50 mlynedd diwetha’.