Mae merch yn ei harddegau wedi cael ei chludo i’r ysbyty ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a char ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf prynhawn ma.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal Glyncoch tua 3.30 prynhawn dydd Llun, 11 Mehefin yn dilyn y gwrthdrawiad yn Grovers Close ger cyffordd Coed y Cwm.

Mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus gan achosi niwed difrifol.

Mae’r ferch wedi cael ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae nifer o ffyrdd yn yr ardal wedi cael eu cau tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad ac maen nhw’n cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1800211422.