Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi rhannu ei weledigaeth am Gymru â rheolaeth tros garchardai ei hun.
Yn ôl Alun Davies – yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – mae’n “anodd dadlau” bod y sefyllfa sydd ohoni o fudd i Gymru.
Ac mae’n awgrymu bod penderfyniadau yn y maes wedi cael eu llywio gan “ragfarn” y Trysorlys, yn hytrach na’r awydd i “fynd i’r afael ag anghenion Cymru”.
Ond, petai Cymru yn medru rheoli’r maes ei hun, mi fyddai modd sefydlu polisi cosbi tra “gwahanol”, meddai’r gweinidog mewn blog.
“Gobeithiaf y byddai parch at ddynoliaeth wrth ei wraidd,” meddai. “Gobeithiaf hefyd y byddai’n galluogi pobol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fyw eu bywydau.”
“Mi fyddai ymdrin â’r maes fel hyn, o fudd i bawb.”
Beth fyddai’n wahanol?
O ran carcharu menywod, byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i beidio ag adeiladu carchar menywod, ac yn adeiladu ‘canolfannau menywod’ – safleoedd sy’n darparu “cymorth”.
Wrth ddilyn y “cyfeiriad newydd” hwn, byddai nifer y menywod sydd dan glo yn gostwng, meddai’r gweinidog.
I droseddwyr ifanc, mi fydd “canolfan ddiogel” yn cael ei sefydlu a fyddai’n darparu “addysg a sgiliau o’r safon uchaf” er mwyn eu helpu i ddychwelyd i’w cymunedau.
Ac i droseddwyr hŷn, fe fyddai’r Llywodraeth yn dewis buddsoddi mewn “carchardai graddfa lai” yn lle “carchardai graddfa fawr”.
Hefyd mi fyddai rhagor o gydweithio â meysydd iechyd ac addysg, er mwyn darparu “cymorth di-dor”. Gweledigaeth bersonol Alun Davies yw hyn i gyd.