Mae map arbennig wedi cael ei lansio ar-lein, gyda’r nod o helpu pobol i ffeindio sefydliadau sydd â staff sy’n medru’r Gymraeg.
Y cylchgrawn dwyieithog ar-lein, Parallel.Cymru, sy’n gyfrifol am yr adnodd hwn, ac mae modd dod o hyd iddo ar eu gwefan.
Ar hyn o bryd, mae yna dros 200 o sefydliadau ar y map gan gynnwys tafarndai, llyfrgelloedd, atyniadau twristaidd a siopau ledled Cymru.
Ac mae’n debyg bod modd cyfrannu rhagor o safleoedd trwy gysylltu â’r wefan – mae’r rhestr wedi’i chasglu o’r cyhoedd.
“Man cychwyn”
“Mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle dyn ni’n gallu defnyddio’r iaith,” meddai neges ar y wefan.
“Yn enwedig pan fyddwn ni’n ymweld ag ardaloedd gwahanol, neu os byddwn ni wedi dod i Gymru o dramor neu wedi teithio dros y ffin … Felly, yma mae man cychwyn wedi’i drefnu.”