Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am gyhoeddi The Carmarthen Journal wedi cyhoeddi eu bwriad i gau swyddfa’r papur newydd yng Nghaerfyrddin ddiwedd y mis.
Yn ôl Reach PLC – Trinity Mirror gynt – maen nhw wedi penderfynu “peidio ag adnewyddu’r les ar ein swyddfa yng Nghaerfyrddin” yn sgil adolygiad.
Mi fydd y chwe aelod o staff sy’n gweithio yn y swyddfa ar hyn o bryd wedi cael y dewis o naill ai symud i swyddfa’r cwmni yn Abertawe neu weithio o gartre’.
Ond mae Reach PLC yn mynnu na fydd hyn yn effeithio ar eu “hymrwymiad i Gaerfyrddin” na’u gwasanaeth i gwsmeriaid y dre’.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn golygu nad oes bellach yr un swyddfa bapur newydd ar ôl yn nhre’ Caerfyrddin – y tro cynta’ ers 1810 pan gafodd y Journal ei sefydlu.
Mae swyddfa’r Carmarthen Journal wedi’i lleoli ar Stryd y Brenin yn y dre’.