Bydd un o Aelodau’r Cynulliad yn cyflwyno bag o sbwriel yn y siambr yr wythnos hon, gyda’r nod o dynnu sylw at lygredd plastig.
Yn ôl Joyce Watson – Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru – mae ein dibyniaeth ar blastig yn “ymyrryd ar falans natur” ac mae angen i ni weithredu.
Mae’n galw ar y cyhoedd i “newid ein harferion” er mwyn mynd i’r afael â’r mater, ac mae’n gobeithio tynnu sylw at effeithiau “darnau bach o blastig” yn benodol.
Y bag
Fe gasglodd Joyce Watson, ynghyd â hanner dwsin o bobol o’i hetholaeth, y sbwriel yn ystod ymweliad â phentref Llandanwg, ger Harlech, ddydd Sul (Mehefin 10).
Cafodd y plastig ei gasglu ger y môr yn ystod sesiwn awr a hanner o hyd, ac mae cynnwys y bag yn cynrychioli “llathen sgwâr o arfordir Cymru” yn ôl yr Aelod Cynulliad.
“Doedd dim modd i ni gasglu’r sbwriel i gyd, oherwydd roedd cyn lleied ohonom ni,” meddai wrth golwg360.
“Â’r hyn sy’n fy nigalonni yw gwybod yw y bydd casgliad newydd o sbwriel pan ddaw’r llanw fewn y tro nesa’.”