Mae’r Eidal wedi’i chyhuddo o greu “sefyllfa beryglus” trwy beidio â chaniatáu i long sydd â thros 600 o ffoaduriaid ar ei bwrdd, angori ar ei glannau.
Daw’r feirniadaeth oddi wrth Brif Weinidog Malta, Joseph Muscat, wrth i ffrae danio rhwng y ddwy wlad tros y llong.
Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Eidal, Matteo Salvini, yn mynnu mai ynys Melita ddylai gymryd cyfrifoldeb am y 629 o bobol sydd ar fwrdd yr Aquarius.
Ond, mae Melita’n gwrthod hynny, gan nodi mai’r Eidal sy’n gyfrifol am y ffoaduriaid dan reolau rhyngwladol.
Gan amlaf, mae mewnfudwyr sy’n croesi i Ewrop o ogledd Affrica, yn dewis gwneud hynny trwy lanio yn yr Eidal. Pobol o Libanus sydd ar fwrdd yr Aquarius.