Mae dyn o Gaernarfon wedi’i garcharu am droseddau rhywiol y cyflawnodd ddau ddegawd yn ôl.

Gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug, ar ddydd Mercher (Fehefin 6), derbyniodd Jason Mark Hughes, 43, ddedfryd o dair blynedd dan glo.

Roedd eisoes wedi’i farnu’n euog o ddau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol ar ferch dan ddeg. Fe gyflawnodd y weithred yn ne Gwynedd.

“Ffrind teulu”

“Roedd y troseddwr yn ffrind teulu i’r ferch, ac aeth ati mewn modd ofnadwy i fanteisio ar eu ffydd ynddo,” meddai’r Ditectif Gwnstabl, Cefyn Roberts.

“Dw i’n croesawu’r ddedfryd, ac yn gobeithio y bydd yn dangos i’r ferch ac i’r gymuned bod Heddlu’r Gogledd yn mynd ar ôl troseddau diweddar yn ogystal â rhai hanesyddol.”