Rôl ymennydd y rhai sy’n gaeth i gamblo fydd dan sylw mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis.

Mae’r Gynhadledd Gamblo Eithafol wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers 2015 gan yr elusen Curo’r Bwci, ac eleni fe fydd pedwaredd gynhadledd yn cael ei noddi gan yr Aelod Cynulliad Darren Millar.

Nod y digwyddiad yw mynd i’r afael â’r broblem o gamblo a cheisio dod o hyd i atebion parhaol.

Yn y gynhadledd, mi fydd cyfres o gyfraniadau gan arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd, gan gynnwys yr Athro Samantha Thomas o Brifysgol Deakin, Awstralia; Wynford Ellis Owen o elusen Stafell Fyw Caerdydd; ac Owen Bailey, sydd wedi profi problemau gamblo ei hun.

Helpu eraill

 Yn ôl Owen Bailey o Rydychen, mae ganddo “agwedd afiach” tuag at gamblo ers ei blentyndod, ac mae’n awyddus i rannu ei stori yn y gobaith y bydd yn gallu helpu pobol eraill sy’n dioddef o’r un broblem.

“Erbyn hyn, rwyf wedi cyrraedd amser yn fy mywyd lle rwyf wedi darganfod graddfa o hunanymwybyddiaeth a gwybodaeth ac wedi datblygu nifer o strategaethau ymdopi,” meddai.

“Cysylltu ag eraill yw’r conglfaen i fy adferiad gan nad oes gen i unrhyw gefnogaeth teulu i alw arni.

“Rydw i’n dal weithiau i syrthio’n ôl, ond ar y cyfan, mae fy ansawdd bywyd wedi gwella’n sylweddol ac rydw i’n byw fy mywyd i’r eithaf unwaith eto.”

Mi fydd y Gynhadledd Gamblo Eithafol yn cael ei chynnal yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar Fehefin 20.