Fe fydd pentref yng ngogledd Mon yn cynnal gwyl fach heno (nos Sul, Mehefin 3) wrth i un o feibion Amlwch ganu yn ffeinal y sioe dalent, Britain’s Got Talent ar ITV.
Mae’r trefniadau ar gyfer ‘Gruffest’ ym Mhorth Amlwch – yn enw’r unawdydd Gruffydd Wyn Roberts – wedi gorfod digwydd yn sydyn, gan mai dim ond yn rownd gyn-derfynol fyw y cafodd y canwr ei bleidleisio trwodd i’r rownd derfynol gan wylwyr y gyfres dalent.
Roedd y Cymro Cymraeg eisoes wedi plesio Simon Cowell a’i gyd-feirniaid David Walliams, Amanda Holden ac Alesha Dixon, gyda’i berfformiadau o’r aria, ‘Nessun Dorma’ yn y rowndiau blaenorol. Fe ddaeth yn ail yn y bleidlais gyhoeddus yn dilyn ei berfformiad o gân glasurol arall, ‘Nelle Tue Mani’ o’r ffilm, Gladiator.
Heno (nos Sul) o 5.30yp ymlaen, fe fydd pobol Porth Amlwch a’r ardal yn dod ynghyd er mwyn gwylio’r rownd derfynol yn fyw ar y teledu, ac i bleidleisio tros Gruffydd Wyn i ennill.
Ond mae’n golygu cadw trefn ar barcio a pharchu hawl pawb i fynd a dod yn yr ardal. Dyna pam fod rhai o’r trefnwyr wrthi ar wefan gymdeithasol Facebook heddiw yn gofyn i bobol barcio yn nhref Amlwch ei hun, ac yna cerdded y filltir dda i lawr i Borth Amlwch i fod yn rhan o’r digwyddiadau.
“Mae yna gymaint o pobol wedi helpu a noddi i neud hyn,” meddai Arwel Hughes ar Facebook. “Hefyd fasa hyn ddim wedi digwydd heb help lot fawr o adrannau Cyngor Môn. Diolch o galon i bawb am helpu i.
“Dw i’n uffernol o falch am ein dre fach ni.”
Fe fydd ffeinal Britain’s Got Talent i’w gweld yn fyw ar ITV o 7.30yh nos Sul, gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi gan gyflwynydd y rhaglen, Declan Donnelly, tua 10yh.
#GRUFFEST #BGTMae pob dim yn ei le i Borth Amlwch nos foru 5.30 da ni gyd tu ol iti Gruffydd wyn. Drefnwyd hwn gyda…
Posted by Arwel Hughes on Saturday, 2 June 2018