Bag yn siâp Mistar Urdd ydi un o’r nwyddau sydd wedi profi fwya’ poblogaidd ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni.

Mae’r bag, sy’n costio £15, i’w weld ar ysgwyddau plant trwy gydol yr wythnos, ac yn ôl siop y mudiad ar y maes, maen nhw wedi gwerthu bron 500 ohonyn nhw hyd yn hyn.

Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed yw ymddangosiad cynta’r bag, ac mae wedi’i ddylunio gan Swyddog Marchnata’r Urdd, Branwen Rhys, a’i gynhyrchu gan y cwmni o Gaerdydd, The Publicity Centre.

“Ailwampio tegan Mistar Urdd”

“Fe wnaethom ni benderfynu y llynedd bod angen ailwampio tegan Mistar Urdd, ac i wneud o i edrych yn debycach i’r masgot ei hun,” meddai Branwen Rhys wrth golwg360.

“Yn dilyn o hynny, ro’n i’n licio’r syniad o gael mwy o nwyddau efo Mistar Urdd arnyn nhw, felly fe wnes i ryw sgets bach o fag Mistar Urdd a chydweithio â’r un cwmni wnaeth gynhyrchu tegan Mistar Urdd, ac maen nhw wedi profi i fod yn hynod boblogaidd hyd yma.”