Fe gafodd cyn-Archesgob Cymru a Chaergaint ei ‘weirio’ gan niwrowyddonydd yng Ngwyl y Gelli dros y Sul – a hynny yn ystod sgwrs rhwng y ddau ar ‘ymwybyddiaeth’.
Roedd yna naws ymlacedig iawn i’r pafiliwn ar gyrion y Gelli Gandryll pan ddechreuodd Rowan Williams fyfyrfio â’i lygaid ynghau, ac wrth i Hannah Critchlow osod sensorau ar ei dalcen er mwyn cofnodi pa mor ymwybodol yr oedd o bethau oedd yn digwydd o’i gwmpas.
“Dydych chi ddim yn meindio os y gwna’ i ddarllen y tonnau sy’n llifo o’ch ymennydd chi, ydych chi?” meddai’r gwyddonydd wrth y diwinydd.
Y bwriad oedd dangos sut y mae ymennydd sydd wedi ‘ymlacio’ trwy fyfyrio, yn cael ei gynrychioli gan beiriant sy’n mesur pethau yn wyddonol, a sut y mae gan ddynoliaeth y gallu i ddewis rhwng ewyllys rydd i dderbyn a gwrthod syniadau amdani hi ei hun.
Dim ond pobol sydd â’r gallu i wneud dewisiadau wedi’u seilio ar sut y mae pobol eraill yn eu gweld nhw, meddai Rowan Williams. “Mae’n ddewis sy’n unigryw i bobol [o gymharu ag anifeiliaid y byd]. Dyma’r ffactor pwysicaf wrth benderfynu os ydi rhywogaeth yn hunan-ymwybodol ai peidio.”
Ond wedi dweud hynny, meddai Hannah Critchlow, mae ymchwil newydd yn dangos fod bodau dynol, yn aml iawn, yn gweithredu cyn derbyn y neges i wneud hynny gan yr ymennydd. Ac mae’r ymchwil, felly, meddai, yn awgrymu fod yna ben draw i’r ‘ewyllys rydd’ sydd gan bobol, a’u bod nhw’n ymateb yn reddfol yn amlach na pheidio.