Mae’r pethau gwaethaf oedd yn perthyn i Ymherodraeth Prydain yn rhan o hanes Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, meddai rapiwr ac ymgyrchydd ar ymweliad â Gwyl y Gelli dros benwythnos gwyliau’r Sulgwyn.

Yn ei gyfrol gyntaf, Natives, sy’n hanner hunangofiant, hanner sylwebaeth ar fywyd pobol groenddu fel ef ei hun, mae Akala (enw cywir, Kingslee Daley) yn dweud nad oes modd gosod y pethau negyddol i gyd ar Loegr.

“Roedd Cymru yn tynnu arian allan o gaethwastiaeth, roedd yna gaethwasiaeth Albanaidd…” meddai.

“Mae’n bwysig i ni gofio hynny wrth i ni geisio cael gwared ar ffiniau yn ein cymdeithas, mae’n rhaid cydnabod yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Ac mae angen cydnabod fod yna ddau brif beth sy’n gwahanu pobol – hil ydi’r cyntaf, a dosbarth cymdeithasol ydi’r ail.

“Ro’n i tua pump oed yn sylweddoli mai dynes wen oedd fy mam,” meddai wedyn, am y cymhlethdod ychwanegol o gael ei ddwyn i fyny yn Llundain yr 1980au yn fachgen o dras gymysg. “Roedd fy nhaid ar ochr fy mam yn filwr gwyn ym myddin Prydain, a theulu fy nhad yn dod o Jamaica…

“Yn Jamaica, dydw i ddim cweit yr un fath â phawb arall oherwydd bod lliw fy nghroen yn rhy olau a fy acen yn rhy posh… ond dydw i, chwaith, i nifer o bobol, ddim yn Sais go iawn oherwydd bod fy nghroen i’n rhy frown. Ond, tu fewn, pan mae’n dod yn gêm bêl-droed rhwng Lloegr a’r Almaen, wrth gwrs fy mod i eisiau gweld Lloegr yn ennill.”

Gangiau Llundain 

Deuddeg oed oedd Akala pan welodd un o’i ffrindiau yn cael ei drywanu ar y stryd yn Llundain – a hynny gyda chyllell fawr o siop gigydd. Dair blynedd yn ddiweddarach, ac yntau’n 15, roedd yn cael ei stopio ar y stryd gan yr heddlu am y tro cyntaf.

“Mae yna gymaint o bethau yn digwydd oherwydd lliw croen,” meddai. “Mi ges i fy rhoi yn y ffrwd plant dwl yn yr ysgol oherwydd fy mod i’n cael fy ystyried yn ‘rhy glyfar’ i fachgen â chroen brown.

“Ond roedd ein cartref ni yn lle diwylliedig a chreadigol, ac er ein bod ni’n faterol dlawd, roeddan ni’n gyfoethog ar sawl lefel. Roedd fy nhad yn gweithio yn y theatr, a finnau’n cael mynd yno yn ei sgil ac amsudno’r holl ddiwylliant a’r pethau gwych yma…

“A heddiw, mae pobol yn meddwl fy mod i’n byw rhwng dau fyd – y byd croenddu a’r byd croenwyn – ond dw i ddim yn ei weld o fel’na. Ac mae rhai hyd yn oed yn dweud bod gen i ‘ddychymyg gwyn’. Dw i wedi chwarae pêl-droed i academi ieuenctid West Ham… allwch chi ddim bod yn fwy o Lundeiniwr na hynny!”