Mae un o drigolion Abertawe’n dweud bod graffiti Cymraeg ar wal yn y ddinas wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb.
Fel rhan o brosiect ‘Celf Ar Draws y Ddinas’, cafodd y slogan ei greu gan Jeremy Deller a’i arddangos ar hysbysfwrdd ger Canolfan Siopa Dewi Sant.
Ond roedd y slogan, ‘More Poetry is Needed’, yn un uniaith Saesneg, ac mae graffiti Cymraeg ar yr hysbysfwrdd yn datgan ‘Mae Angen Mwy o Gymraeg’.
‘Dadleuol’
Wrth gyhoeddi llun o’r hysbysfwrdd ar ei dudalen Facebook, dywedodd Geraint James: “Graffiti wedi ymddangos yr wythnos hon.
“Gwrthdaro dau ddiwylliant yn Abertawe.
“Dadleuol basech chi’n meddwl ond, wrth i mi dynnu’r llun daeth tri pherson gwahanol atof fi a gofyn am gyfieithiad.
“Roedd yn amlwg eu bod yn cefnogi’r graffiti.”
Ennyn diddordeb
Mae’r hysbysfwrdd wedi ennyn rhywfaint o ymateb ar wefan gymdeithasol Twitter hefyd, wrth i’r ddinas baratoi i groesawu digwyddiad Radio 1, The Biggest Weekend i’r ddinas dros y penwythnos.
Fel rhan o’r digwyddiad, fe fydd bandiau Cymraeg ar un o’r llwyfannau ymylol, BBC Music Introducing. Yn chwarae ar y llwyfan fydd Band Pres Llareggub, Mellt, Chroma a Serol Serol.
Ac mae un o’r artistiaid Saesneg ei iaith, Boy Azooga yn annog y gynulleidfa i “floeddio ar Taylor Swift yn Gymraeg”, gan ddweud mai “Rwy’n dy garu di” yw “I love you” yn Gymraeg.
I wonder if the council will wash off the Welsh thing from the ‘more poetry is needed’ mural. #Swansea pic.twitter.com/uN8lBZS0e4
— HafodBoi (@HafodBoi) May 23, 2018
Fully stan the person who sprayed ‘mae angen mwy o Gymraeg’ at the bottom of Swansea’s more poetry is needed sign just in time for radio ones big weekend
— dee (@kirstdee_) May 23, 2018