Mae cantores ac actores o Fôn yn dweud ei bod yn brofiad “anodd iawn” ysgrifennu pennod yn ei hunangofiant newydd sy’n sôn am ei chyfnod yn dioddef o ganser.
Ddwy flynedd yn ôl, fe gafodd Margaret Williams, sydd wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru a’r byd ers dros 60 mlynedd, glywed ei bod yn dioddef o ganser y fron.
Roedd ar y pryd yn ysgrifennu ei hunangofiant, Margaret, a hynny gyda chymorth y darlledwr Hywel Gwynfryn. Ac wrth iddi dderbyn y driniaeth, fe benderfynodd ychwanegu pennod am y cyfnod hwnnw.
“Roedd hi’n anodd iawn,” meddai Margaret Williams wrth golwg360. “Roedd y dagrau’n agos trwy’r amser.
“Roeddwn i’n siarad ac yn stopio, ac yn deud ac yn stopio. Ro’n i hefyd, yn y diwedd, yn gorfod ail-ysgrifennu ambell ddarn fy hun… ond fe ddaethon ni drwyddi.”
Teulu yn bwysig
Mae Margaret Williams yn dweud mai ysgrifennu am hanes ei gyrfa yn y byd perfformio a darlledu oedd ei nod ar y cychwyn, gyda dim ond “brawddeg neu ddwy” am ei chefndir a’i theulu.
Ond fe wnaeth y newyddion am y canser “ddylanwadu ar ei meddwl”, meddai.
“Doedd yr yrfa ddim yn bwysig i mi o gwbwl, a dw i’n sôn llai am hynny, ac oherwydd hynny, be o’n i’n siarad amdano fwyaf oedd fy nheulu ac am y gorffennol…
“Ac roedd Hywel [Gwynfryn], chwara teg iddo, yn dweud, ‘Wel, mae’n rhaid i ni sôn am dy yrfa di, ac am y bobol rwyt ti wedi gweithio efo nhw’, ond eto roeddwn i’n mynd yn ôl at fy nheulu.
“Felly, mae o’n deud lot am brofiadau pobol a theimladau pobol o dan amgylchiadau mawr.”
Dyma glip o Margaret Williams yn darllen darn o bennod ola’ yr hunangofiant, sy’n cyfeirio at yr adeg pan wnaeth hi ddarganfod bod ganddi’r clefyd…