Mae grŵp cymunedol o Sir Benfro a lwyddodd i achub tafarn leol, wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Brydeinig.

Cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc eu ffurfio tros haf y llynedd, gyda’r nod o brynu’r tafarn yn Rhos y Bwlch, Maenclochog, a’i chadw ar agor i’r gymuned.

Yn sgil misoedd o ymgyrchu, llwyddodd y grŵp â chodi digon o arian – trwy werthu cyfranddaliadau yn bennaf – a bellach mae’r safle ar agor saith diwrnod yr wythnos.

Mae’r Gymdeithas wedi’u henwebu ar gyfer categori  ‘Torri Trwodd’ yng Ngwobr Flynyddol y Gymdeithas Gydweithredol – a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddiwedd mis Mehefin.

“Plufyn yn ein capan”

“Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous ac mae cael ein henwebu ar gyfer Gwobr Flynyddol y Gymdeithas Gydweithredol – yr unig enwebiad o Gymru yn y categori – yn dipyn o blufyn yn ein capan,” meddai cadeirydd dros dro’r gymdeithas, Hefin Wyn.

“… Mae’r enwebiad eisoes wedi achosi cyffro a byddai cael ein cyhoeddi’n enillwyr yn hwb anferth i gyhoeddusrwydd. Byddai’n cadarnhau’r ffydd a ddangoswyd gan y cyfranddalwyr yn y pwyllgor o gyfarwyddwyr dros dro Cymdeithas Tafarn Sinc.”

Mae modd taro pleidlais am y gymdeithas ar y wefan hon: https://www.uk.coop/COTY_Shortlist

Daw’r pleidleisio i ben ar Fehefin 15.