Fe fydd banc bwyd yn agor ym mhentref Llandysul am y tro cyntaf erioed dros y penwythnos, wrth i Geredigion weld cynnydd yn nifer y bobol sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Y banc bwyd newydd hwn, a fydd yn agor ei ddrysau dros y Sul (Mai 20), fydd y pedwerydd un i gael ei sefydlu yn y sir dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai eisoes yn gweithredu yn nhrefi Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth ac Aberteifi.
Grŵp Cristnogol lleol, Golau, sydd y tu ôl i’r fenter, ac fe fydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
Mae’r grŵp hefyd wedi derbyn cymorth gan bartneriaid, sy’n cynnwys busnesau lleol, Ysgol Bro Teifi a Banc Bwyd Llanbedr Pont Steffan.
Tlodi ar gynnydd
“Mae’n arswydus i feddwl bod tlodi llethol fel hyn yn effeithio ar lawer yn Llandysul a’r ardal, felly ry’n ni, fel Golau, eisiau gwneud gwahaniaeth yn lleol. Nid yn unig yn nhref Llandysul ei hun, wrth gwrs, ond yr ardaloedd gwledig o’n cwmpas,” meddai Llinos Dafydd, sy’n aelod o Golau.
“Enghraifft o hyn oedd pan glywodd Lleucu Meinir, un o griw Golau, fod teulu o Landysul wedi cerdded yr holl ffordd i Lambed ac yn ôl, er mwyn casglu pecyn bwyd, sy’n siwrne o dros 26 milltir i gyd.”
Mae’n dweud wedyn bod yna alw mawr am y gwasanaeth, yn enwedig yng ngolau dyfodiad Credyd Cynhwysol – y drefn newydd o dalu budd-daliadau – “a fydd yn ergyd ac yn gwaethygu sefyllfa pobl a theuluoedd yn gyflym iawn,” meddai.
Y ffigyrau
Yn ôl ffigyrau diweddaraf yr elusen, Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n gyfrifol am rwydwaith o fanciau bwyd yng Nghymru a Lloegr, fe gafodd 1,332,952 o barseli bwyd eu darparu i bobol mewn angen rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Mawrth eleni – cynnydd o 13% ers y flwyddyn flaenorol.
Banc bwyd Aberteifi yw’r unig un yng Ngheredigion sy’n aelod o’r elusen hon, ac yn ôl eu ffigyrau nhw, mae 1,514 o bobol wedi defnyddio’r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda 579 o’r rheiny yn deuluoedd â phlant.
Dyma gynnydd o 25% ers y cyfnod blaenorol, ac mae disgwyl y bydd yr angen am barseli bwyd yn cynyddu 30% wrth i’r Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno.
Mi fydd Banc Bwyd yn Llandysul yn lansio yng nghapeli ac eglwysi’r ardal dros y penwythnos, ac fe fydd yn agor yn swyddogol yn Festri Capel Seion ddydd Llun (Mai 21).