Mi fydd parti stryd ‘answyddogol’ yn cael ei gynnal yn nhref Y Bala dros y penwythnos, er mwyn dathlu priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle.
Fe fydd trigolion stad newydd Yr Hafan yn y dref yn cynnal “parti bach”, meddai’r trefnydd, a hynny ar gyfer “cwpwl bach o blant a chymdogion”.
“Y rheswm yden ni’n gwneud hwn yw achos mae un o’r cymdogion wedi symud o Ddolgellau i fyw i’r Hafan, ac mae hi’n cofio pan oedd William yn priodi, fe gathon nhw street party mawr yn Nolgellau,” meddai un o drigolion Yr Hafan wrth golwg360.
“Hi ddaru ddweud bod yr holl beth wedi mynd yn lyfli yn Nolgellau, so ei syniad hi oedd o i wneud o. Ryden ni’n gwylio’r briodas yn ein tai ein hunain, ac yna fe fyddwn ni’n mîtio i fyny wedyn am ryw ddau o’r gloch y pnawn.
“Ryden ni jyst yn rhoi un bwrdd bach reit yng ngwaelod y stryd, fel bod y traffig ddim yn amharu ar y plant, ac ryden ni jyst yn gwneud gêms bach i’r plant… dyna’r cwbwl, rîli.”
Gweddill Cymru
Dim ond ychydig dros 20 o geisiadau am ganiatâd mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi’u derbyn er mwyn cau strydoedd ar y diwrnod mawr ddydd Sadwrn yma (Mai 19) – gyda dim ond tri o’r rheiny yn y gogledd.
Mi fydd y tri ‘swyddogol’ hyn yn cael eu cynnal yn ardaloedd Wrecsam a Biwmares, ond mae golwg360 yn ddeall y bydd rhai ‘answyddogol’ yn digwydd yn y Bala a Thywyn ger Abergele.
Mae’r ychydig dros 20 o geisiadau sydd wedi’u cyflwyno i awdurdodau lleol yng Nghymru gryn dipyn yn llai na’r 200 a gafodd eu derbyn adeg priodas y Tywysog William a Kate Middleton yn 2011.
Yn ystod y digwyddiad hwnnw, bu tua 4,000 o bartïon stryd yng Nghymru a Lloegr, gyda dros 50 yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yn unig.
Ond eleni, er mai’r brifddinas fydd â’r nifer fwyaf o bartïon stryd yng Nghymru, dim ond naw cais sydd wedi’u derbyn gan Gyngor Dinas Caerdydd.
O ran y gorllewin a’r canolbarth wedyn, dim ond Cyngor Sir Gaerfyrddin sydd wedi derbyn ceisiadau, gyda dau o’r rheiny ar gyfer tref Llanelli.