Mae tri  o Gymru ymhlith pump sydd wedi ymddangos gerbron y llys heddiw ar amheuaeth o ladd llwynogod ifanc mewn cenel cŵn hela.

Fe gafodd Julie Elmore, Nathan Parry a Paul Reece o Gymru, ynghyd â Paul Oliver a Hannah Rose o Swydd Lincoln, eu cyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i achos o gam-drin anifeiliaid mewn cenel cŵn helfa.

Roedd Heddlu De Mersia wedi cynnal yr ymchwiliad yn dilyn adroddiadau bod llwynogod ifainc wedi cael eu cymryd i genel a oedd yn gysylltiedig â helfa yn ne Swydd Henffordd rhwng Mai 13 a Mai 28 2016.

Y cyhuddiadau

Mae Julie Elmore, 54 oed, a Nathan Parry, 38 oed, o stad Brynarw ger Y Fenni, yn wynebu pedwar cyhuddiad o ladd y cenau, a hynny yn unol â Deddf Lles Anifeiliaid 2016.

Mae Paul Oliver, 39 oed, a Hannah Rose, 29 oed, o Sutton Crosses ger Spalding yn Swydd Lincoln, hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o gam-drin anifeiliaid o dan yr un ddeddf.

Mae Paul Reece, 47 oed, o Landdinol ger Cas-gwent wedyn yn wynebu dau gyhuddiad o achosi niwed diangen i anifeiliaid yn Wormelow, Swydd Henffordd, a ddigwyddodd tua’r un adeg â’r achosion honedig eraill ym mis Mai 2016.

Yn ystod y gwrandawiad yn Llys Ynadon Birmingham heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 15), fe ofynnodd y barnwr i’r pump i gadarnhau eu henwau, eu hoedran a’u cyfeiriadau, cyn dangos tystiolaeth fideo iddyn nhw.

Mae’r pump bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yr achos yn parhau ar Fehefin 19.