Mae bron chwarter y plant a phobol ifanc sydd mewn gofal yng Nghymru heb fod mewn lle ‘sefydlog’, yn ôl ymchwil newydd.

Er hyn, mae Llywodraeth Cymru, a gomisiynodd yr adroddiad gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, wedi croesawu’r ffaith bod mwyafrif y plant a phobl ifanc mewn gofal yn gwneud yn “dda”.

Bwriad yr astudiaeth oedd archwilio hynt lleoliadau plant mewn gofal yng Nghymru a cheisio dysgu pa ffactorau oedd yn gwneud y lleoliadau sefydlog yn llwyddiant.

Yr adroddiad

Mae’r adroddiad yn ystyried sefyllfa pob un o’r 1,076 o blant a phobol ifanc a gafodd eu rhoi mewn gofal yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2012 a mis Mawrth 2013.

Fe gafodd 79 o achosion o bump ardal awdurdod lleol eu hystyried fel is-sampl hefyd, a hynny er mwyn cynnal dadansoddiad manylach.

Dyma’r prif gasgliadau:

  • Bod tri chwarter o’r holl blant mewn lleoliad ‘sefydlog’ – gyda 30% heb symud o gwbl a 46% heb symud fwy nag unwaith yn ystod cyfnod o 4-5 mlynedd;
  • Bod 71% o’r is-sampl wedi cael profiad cadarnhaol mewn gofal, gyda 19% wedi profi canlyniadau cymysg, a 10% wedi profi canlyniadau negyddol;
  • 78% o’r holl blant wedi’u rhoi mewn gofal yn sgil cam-drin ac esgeulustod.

Croeso gofalus

 Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ym Mae Caerdydd, Huw Irranca-Davies, wedi dweud ei fod yn “falch” bod cymaint o blant a phobl ifanc sydd mewn gofal yn gwneud yn “dda”.

Ond mae hefyd yn cydnabod bod yna “heriau sylweddol” i’w hwynebu yn y maes o hyd.

“Rhaid inni ddysgu a defnyddio’r canfyddiadau o’r gwaith hwn i helpu i sicrhau bod anghenion iechyd a lles plant yn cael sylw mewn ffordd therapiwtig a pharhau i ganolbwyntio ar ddarparu lleoliadau hirdymor o ansawdd uchel a fydd yn helpu i ddiwallu eu hanghenion,” meddai.