Mae disgwyl y bydd miloedd yn tyrru i dre’ Caernarfon heddiw (dydd Sadwrn, Mai 11), wrth i Ŵyl Fwyd gael ei chynnal yno.
Dyma’r trydydd tro i ganol y dre’ groesawu’r ŵyl, ac fe fydd yn cynnwys stondinau bwyd, arddangosfeydd coginio a cherddoriaeth.
Mae prif weithgareddau’r ŵyl dros y blynyddoedd wedi’u cynnal o amgylch ardal y Maes a Chei Llechi ac eleni, fe fydd yn ymestyn i rannau eraill o’r dre’, gan gynnwys y promenâd a’r castell.
Ymhlith yr enwau adnabyddus a fydd yn cymryd rhan yn ystod y dydd fydd y cogyddion Tomos Parry a Chris ‘Foodgasm’ Roberts, a fydd yn cynnal arddangosfeydd coginio yn y castell.
Mi fydd hefyd adloniant gan artistiaid fel Band Pres Llarregub a Beth Celyn, a hynny ar brif lwyfan yn Noc Fictoria.
Denu’r tyrfaoedd
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Nici Beech, fe ddaeth tua 15,000 o bobol y llynedd, ac mae’n gobeithio y bydd tywydd braf yfory yn denu “hyd yn oed fwy”.
“Gwirfoddolwyr ydan ni i gyd,” meddai wrth golwg360, “Does yna neb yn cael cyflog am drefnu hwn.
“Rydan ni’n gneud o achos bod ni’n credu ei fod yn beth da i Gaernarfon… ac rydan ni’n mwynhau!”
Mae’r ŵyl yn agor am 10 o’r gloch fore heddiw, ac fe fydd yn dod i ben 5 o’r gloch.