Mae ffeinal Cwpan Her Ewrop rhwng Gleision Caerdydd a Chaerloyw heno “yn addo bod yn ornest drydanol rhwng dau dîm sy’n hoffi rhedeg gyda’r bêl a chwarae rygbi ymosodol”.
Dyna farn Danny Wilson, y dyn sy’n hyfforddi’r Gleision am y tro olaf heno yn y rownd derfynol yn Stadiwm San Mames, Bilbao, Sbaen.
Mae Ellis Jenkins wedi ei ddewis yn gapten y Gleision, ond mae’r prop profiadol Gethin Jenkins wedi ei anafu.
Er hynny, mae mwyafrif y tîm a drechodd Pau yn y rownd gynderfynol ar gael gyda Gareth Anscombe yn safle’r cefnwr a Jarrod Evans yn safle’r maswr.
Ond mae’r tîm o Gymru yn wynebu tîm sydd â record rymus yng Nghwpan Her Ewrop – fe enillodd Caerloyw y gystadleuaeth yn 2015 ac roedden nhw yn y ffeinal y llynedd, pan gollon nhw i Stade Francais.
Wedi dweud hynny, mae record ddiweddar y Gleision yn barchus iawn – ennill 10 o’r 12 gêm olaf.
Gleision Caerdydd: Anscombe; Lane, Lee-Lo, Halaholo, Scully; Evans, Williams; Gill, Dacey, Filise, Davies, Turnbull, Navidi, Jenkins (c), Williams.
Caerloyw: Woodward; Marshall, Twelvetrees, Atkinson, Trinder; Burns, Braley; Hohneck, Hanson, Afoa, Slater (c), Galarza, Polledri, Ludlow, Ackermann.