Mae’r rhestrau byrion ar gyfer gwahanol gategorïau Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018 wedi’u cyhoeddi.
Ymhlith yr awduron Cymraeg sydd ar y rhestr mae Mihangel Morgan, a’i lyfr Hen Bethau Anghofiedig; a’r bardd, Gwyneth Lewis, a’i chasgliad Treiglo.
Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu i weithiau creadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd ar Fehefin 26.
Bydd gwobr o £1,000 i enillydd pob categori, ac mi fydd prif wobr o £3,000 yn cael ei rhoi i brif enillydd y noson.
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae’r cyflwynydd Beti George; y prifardd, Aneirin Karadog; a’r nofelydd, Caryl Lewis.
Y rhestrau byrion yn y categorïau Cymraeg
- Gwobr Farddoniaeth
- Llif Coch Awst, Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas)
- Treiglo, Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas)
- Caeth a Rhydd, Peredur Lynch (Gwasg Carreg Gwalch)
- Gwobr Ffuglen
- Gwales, Catrin Dafydd (Y Lolfa)
- Fabula, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa)
- Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa)
- Gwobr Ffeithiol Greadigol
- Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa)
- Blodau Cymru: Byd y Planhigion, Goronwy Wynne (Y Lolfa)
- Ar Drywydd Niclas y Glais, Hefin Wyn (Y Lolfa)
Saesneg
- Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
- All fours, Nia Davies (Bloodaxe Books)
- The Mabinogi, Matthew Francis (Faber & Faber)
- Diary of the Last Man, Robert Minhinnick (Carcanet Press)
- Gwobr Ffuglen
- Hummingbird, Tristan Hughes (Parthian)
- Light Switches Are My Kryptonite, Crystal Jeans (Honno)
- Bad Ideas \ Chemicals, Lloyd Markham (Parthian)
- Gwobr Ffeithiol Greadigol
- Icebreaker, Horatio Clare (Chatto & Windus)
- David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet, Thomas Dilworth (Jonathan Cape)
- All that is Wales, M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru)