Mae dyn 20 oed o Gaerdydd wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn Lerpwl fore ddoe.
Cafodd Heddlu Glannau Mersi a pharafeddygon eu galw i Stryd Hanover yn Lerpwl tua 4yb fore dydd Sul, 6 Mai. Cafwyd hyd i Fatah Warsame o ardal Caerdydd wedi’i anafu.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw o’i anafiadau.
Mae’n dilyn penwythnos o drais yn Llundain, lle bu pedwar achos o saethu o fewn 24 awr ac yn Luton bu farw dyn 20 oed ar ôl cael ei drywanu.
Mae’r heddlu wedi dweud y bydd rhagor o blismyn ar ddyletswydd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc er mwyn cadw’r strydoedd yn ddiogel.