Mae dyn o Aberdaugleddau wedi ei garcharu am boeri yng ngwyneb plismon.

Roedd Shane William Goodridge, 24, yn y ddalfa yn Hwlffordd pan boerodd ar yr heddwas.

Gerbron Llys Ynadon Llanelli, diwrnod wedi’r ymosodiad ar Fai 2, cyfaddefodd ei fod wedi poeri ar y swyddog. Bydd yn treulio 12 wythnos dan glo.

“Rydym yn bles gyda’r ddedfryd cafodd ei ddyfarnu,” meddai Uwch-arolygydd yr Heddlu yn Sir Benfro, Ian John. “Mae ymosod trwy boeri yn amhleserus ac yn medru cael effaith wael ar ein swyddogion.”