Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd gyffuriau yn ardal Caerffili a Blaenau Gwent, ddydd Iau (Mai 3).

Bellach mae pedwar dyn – 36, 28, 25 a 24 blwydd oed – yn y ddalfa ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Yn ogystal, mae dwy ddynes – 31 a 29 blwydd oed – yn y ddalfa dan amheuaeth o guddio tarddiad arian sydd wedi’i ennill dan amodau anghyfreithlon.

Cafodd saith cyrch eu cynna mewn tai yn Nhredegar, Tredegar Newydd, Abertyswg a Bargoed; gyda 50 o swyddogion arbenigol ynghlwm â nhw.

“Cymunedau”

“Mae gwybodaeth yr ydym yn derbyn wrth ein cymunedau yn bwysig ar gyfer gweithredu gwarantau fel rhain yn llwyddiannus,” meddai Mark Pope, Ditectif Prif Arolygydd Heddlu Gwent.

“Cymunedau lleol sy’n adnabod eu pentrefi a’u strydoedd, orau.”